Gorbryder

anxiety

Mae straen yn ymateb naturiol i fygythiad o berygl. Mae eich ymennydd yn rhyddhau cemegau, sydd yn eich gwneud yn effro yn feddyliol ac yn gorfforol barod i weithredu. Unwaith y bydd y perygl drosodd, mae’n cymryd hyd at awr i’ch ymennydd ddiffodd yr ‘ymateb straen’ hwn. Gall straen ddod yn broblem pan fydd yn para am amser hir neu pan fydd yn ddwys iawn. Mae yna linell denau rhwng straen a gorbryder gan fod gan y ddau symptomau bron yn union yr un fath. Er bod straen fel arfer yn cael ei achosi gan rywbeth yn digwydd, mae gorbryder yn bryderon cyson nad ydyn nhw'n diflannu hyd yn oed pan fydd yr hyn a achosodd y straen wedi diflannu. Gall defnyddio a rhoi'r gorau i gyffuriau stryd arwain at gorbryder. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn defnyddio cyffuriau stryd mewn ymgais i leddfu symptomau gorbryder. Er y gallai hyn weithio yn y tymor byr, gall waethygu'r symptomau unwaith y bydd y cyffuriau wedi darfod. Mae triniaethau gorbryder eraill a ffyrdd o ymdopi â straen sy'n llawer mwy effeithiol na chyffuriau stryd.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: