Hypnotherapi

hypnotherapy

Defnyddio hypnoteg i drin salwch. Mae’n cael ei ddefnyddio amlaf i drin cyflyrau sy’n gysylltiedig â straen, fel gorbryder, asthma, meigryn ac ati, ond mae hefyd yn cael ei ddefnyddio’n eang i newid arferion a dibyniaethau fel alcohol, tybaco a chyffuriau eraill. Er gwaethaf y sylw negyddol yn y wasg a’r sioeau llwyfan dadleuol, mae gan hypnotherapi hygrededd meddygol a gwyddonol sylweddol, pan fydd yn cael ei ddefnyddio’n fedrus ac yn gyfrifol. Gwelwyd ei fod yn lleihau straen, ac yn ffordd effeithiol o helpu i newid ymddygiad dibynnol ymysg rhai pobl.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: