Iselder

depression

Mae iselder yn fwy na hwyliau isel yn unig, mae’n deimlad di-syfl o dristwch ac anobaith a all bara am wythnosau neu fisoedd. Gall iselder eich atal rhag teimlo unrhyw bleser mewn bywyd o ddydd i ddydd ac mewn achosion difrifol gall wneud i bobl deimlo'n hunanladdol. Nid oes un peth penodol sy’n achosi iselder. Er bod rhai pobl yn defnyddio alcohol neu gyffuriau stryd i leddfu symptomau iselder, gall y defnydd o alcohol a chyffuriau stryd hefyd greu neu ddwysau teimladau o unigrwydd, tristwch ac anobaith. Mae triniaethau a ffyrdd o ymdopi ag iselder sy'n llawer mwy effeithiol nag alcohol a chyffuriau stryd.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: