Kratom
kratomMae Kratom (Mitragyna speciosa) yn blanhigyn trofannol o Dde-ddwyrain Asia. Credir mai'r prif sylweddau seicoweithredol ynddo sy'n gyfrifol am effeithiau yw mitragynine a 7-hydroxymitragynine, a chredir eu bod yn gweithio ar dderbynyddion opioid a gallant hefyd gael effaith adfywiol, ond nid oes neb yn siŵr iawn. Fe'i defnyddir fel cyffur hamdden a honnir yn eang ei fod yn cael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth ar ffurf tȇ yn enwedig wrth ddiddyfnu o opiadau. Ar hyn o bryd mae'n cael ei hybu yn yr Unol Daleithiau fel atchwanegiad iechyd ond cafwyd adroddiadau niferus o effeithiau gwenwynig a nifer o farwolaethau yn y DU lle roedd kratom yn ffactor. Mae Kratom wedi ei gynnwys yn y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol.
Ffôn di-dal: