Orffinau
orphinesMae ‘orffinau’ neu ‘gyffuriau tebyg i brorffin’ (opioidau piperidinyl benzimidazolone) yn deulu o opioidau synthetig sy’n debyg o ran cryfder i ‘nitazenes’. Brorffin yw’r mwyaf adnabyddus o’r cyffuriau ‘Orffin’. Yn y DU, mae brorffin yn gyffur Dosbarth A, ond nid yw amrywiadau eraill o ‘Orffin’ yn cael eu rheoli gan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau ar hyn o bryd, er eu bod wedi’u cynnwys yn y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol.
Ddiwedd 2025, bu nifer fach o farwolaethau yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr y credir eu bod yn gysylltiedig â heroin a oedd wedi’i lygru ag un o’r amrywiadau o ‘Orffinau’ o’r enw Cychlorphine (N-Propionitrile chlorphine). Nid yw’n glir pam fod y grŵp hwn o opioidau synthetig cryf wedi dod i’r amlwg, ond efallai fod cysylltiad â ddeddfwriaeth cynhyrchu a gwethu ‘nitazenes’ yn Tseina.