Paranoia

paranoia

Cyflwr o salwch meddwl lle mae’r dioddefwr yn dychmygu bod ganddo gysylltiad unigryw â phobl neu ddigwyddiadau allanol. Mae teimladau o ddicter, erledigaeth, amheuaeth neu unigedd yn cael eu cysylltu’n aml â pharanoia. Mae’n gallu digwydd o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau dros gyfnod hir – yn enwedig amffetaminau neu gocên. Gydag amffetamin neu gocên, mae statws anghyfreithlon y cyffur yn gallu cynyddu’r teimladau o erledigaeth. Mae’n bosibl y bydd pobl fel plismyn yn ceisio ‘dal’ yr unigolyn paranoid. Mae’r teimladau paranoia yn stopio fel arfer os bydd yr unigolyn yn stopio defnyddio cyffuriau.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: