Profion ymweithredyddol

reagent-tests

Mae profion ymweithredyddol yn becynnau profi cyffuriau a ddefnyddir i benderfynu a yw sylwedd yr hyn y tybir iddo fod. Mae'r profion yn gweithio trwy grafu pilsen neu ychydig friwsion o bowdr ac yna ychwanegu cemegau amrywiol (a elwir yn ymweithredyddion). Drwy gymharu’r lliw y mae'r sylwedd yn troi iddo â siart liwiau yn y pecyn, gellir penderfynu a yw'r sylwedd yr hyn y tybiwyd iddo fod. Mae’r pecynnau yn gymharol rhad, yn gyfreithlon i'w prynu, a dim ond 5 munud y mae'r profion yn cymryd i’w cwblhau. Ond dydy’r profion ddim yn gallu adnabod bob sylwedd, canfod pob difwynydd, na chofnodi purdeb. Er nad oes angen unrhyw arbenigedd i'w defnyddio, mae gwallau dynol (gan unigolion nad ydynt yn arbenigwyr) yn tueddol o ddigwydd. Gellir cynnal profion mwy cywir trwy anfon tabledi a phowdrau i WEDINOS.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: