Seicosis

psychosis

Seicosis yw’r cyflwr lle mae pobl yn colli rhywfaint o gysylltiad â realiti. Gall hyn olygu gweld neu glywed pethau na all pobl eraill eu gweld na’u clywed (rhithweledigaethau) a chredu pethau nad ydynt yn wir mewn gwirionedd (rhithdybiau). Gelwir y rhain yn symptomau seicotig. Gall seicosis gael ei sbarduno gan gyflyrau iechyd meddwl (seicolegol) neu gyflyrau iechyd cyffredinol. Gall seicosis hefyd gael ei sbarduno gan alcohol a chyffuriau, yn enwedig cannabis a chyffuriau adfywiol fel cocên. Mae seicosis sy'n gysylltiedig â chyffuriau fel arfer yn para dros dro, cyn belled bod yr unigolyn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r cyffuriau ac yn cael triniaeth.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: