Shiatsu

shiatsu

Meddyginiaeth gyflenwol sy’n cael ei defnyddio weithiau gyda defnyddwyr cyffuriau, yn enwedig defnyddwyr trwm cyffuriau adfywiol fel Cocên ac amffetaminau. Mae’n golygu ‘pwysedd bys’ mewn Japaneg. Mae’r therapi’n gyfuniad o dylino a phwysedd ar yr aciw-fannau, ynghyd ag elfennau o ffisiotherapi. Byddai ymarferwyr Shiatsu yn y Gorllewin yn dweud bod ei therapïau’n ysgogi cylchrediad y gwaed a llif hylifau lymffatig, a hefyd yn rhyddhau tensiynau a thocsinau o’r cyhyrau. Mae’r teimlad braf ac ymlaciol cyffredinol hefyd yn cael effeithiau buddiol ar bobl sydd o dan straen ac sy’n cael eu hysgogi’n ormodol.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: