Stigma
stigmaMae caethiwed i alcohol a chyffuriau, yn enwedig cyffuriau fel heroin a chrac cocên yn achosi stigma mawr iawn yn ein cymdeithas. Yn aml, tybir mai bai yr unigolion ei hun ydy bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Credir nad ydynt yn haeddu cydymdeimlad na goddefgarwch, er bod llawer o bobl yn defnyddio sylweddau i ymdopi â’u problemau iechyd meddwl neu drawma plentyndod. Mae stigma’n cael ei greu o’r hyn rydym yn amgyffred, o’n gweithredoedd ac o’n ddefnydd o eiriau fel ‘junkie’ neu ‘smack head’. Mae'n creu stereoteipiau ac yn ein gwneud yn feirniadol a’n rhagfarnllyd, sy'n golygu ein bod yn methu gweld y rhai sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol fel pobl. Mae arwyddocâd effaith negyddol stigma yn dechrau cael ei gydnabod a'i ddeall yn ehangach gan weithwyr proffesiynol. Mae stigma yn cael effaith ddinistriol ar hunan-barch person, yn creu teimladau o hunanwerth isel, yn cynyddu unigrwydd, ac yn ei gwneud hi'n anoddach ceisio cymorth, cefnogaeth a thriniaeth, ac mae hyn yn gwneud y cyflwr yn waeth a chynyddu problemau yn ein cymdeithas.