Sylweddau Seicoweithredol Newydd

new-psychoactive-substances

Roedd Sylweddau Seicoweithredol Newydd (a elwir hefyd yn NPS, neu ‘Legal Highs’) yn enw a roddwyd ar ystod enfawr o wahanol fathau o gyffuriau nad oeddent yn dod o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Roedd y rhain yn aml yn ‘newydd’ yn yr ystyr eu bod yn gyffuriau a oedd yn cael eu cynhyrchu’n fwriadol gyda mân amrywiadau cemegol i’r ystod o gyffuriau anghyfreithlon traddodiadol fel ffordd o osgoi torri’r gyfraith. Treuliodd y llywodraeth bron i ddegawd yn dod â channoedd o'r cyffuriau hyn i mewn i'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ond bob tro y byddent yn gwneud hyn byddai amrywiad newydd yn ymddangos a oedd yn aml yn fwy grymus ac yn fwy peryglus. Yn 2016 cyflwynodd y Llywodraeth y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol, a arweiniodd at gau yr holl siopau a gwefannau yn y DU oedd yn gwerthu’r cyffuriau hyn, i bob pwrpas. Er bod y defnydd o rai o'r sylweddau hyn wedi dod i ben, mae rhai, fel cannabinoidau synthetig ('Spice') yn parhau i gael eu gwerthu mewn carchardai ac ymhlith pobl y stryd. O ran cyffuriau eraill a ddaeth o dan y Ddeddf, fel Nitrous Ocsid, ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn y nifer y bobl a oedd yn eu defnyddio.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: