Thrombosis gwythiennau dwfn

deep-vein-thrombosis

Ystyr thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) ydy clot gwaed mewn un o’r gwythiennau dwfn yn y corff, yn y coesau fel arfer. Mae clot gwaed yn gallu digwydd mewn gwythiennau mwy sy’n rhedeg drwy gyhyrau croth y goes (calf) a’r glun. Mae clotiau gwaed sy’n datblygu mewn gwythïen hefyd yn cael eu galw’n thrombosis gwythiennol. Mae’r symptomau’n gallu cynnwys poen, chwydd a theimlad o boen trwm yn y goes. Mae DVT yn gallu arwain at gymhlethdodau fel blocio pibellau gwaed yn yr ysgyfaint (emboledd yr ysgyfaint). Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi’n meddwl bod gennych chi symptomau DVT.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal:
Neu tecstiwch DAN i: