Tuci Tusi Tussi Tucibi

tuci-tusi-tussi-tucibi

Mae ‘Tuci’, Tusi’, Tussi’ neu ‘Tucibi’ yn gymysgedd o gyffuriau/tric marchnata a ddechreuodd yn Ne America ond sydd wedi bod yn y DU ers rhai blynyddoedd. Bydd yn cael ei alw’n ‘Cocên Pinc’, ‘Cet Pinc’ neu ‘Bowdr Pinc’ yn y DU. Mae’r cynnwys yn amrywio ond yn aml bydd yn cynnwys cymysgedd o MDMA neu gocên a cetamin ac ychwanegir lliw pinc ato. Mae’r risgiau’n debyg i’r risgiau o ddefnyddio unrhyw un o’r cyffuriau hyn gyda’i gilydd. Mae defnyddio MDMA a chocên gyda’i gilydd yn golygu bod y cocên yn atal rhai o effeithiau dymunol MDMA ac yn cynyddu’r risg o drawiad ar y galon. Nid yw ‘Tucibi’ yn perthyn i ‘2CB’ (dolen at 2Cx) ond mae’n gallu achosi rhywfaint o ddryswch gan fod yr enw ‘n swnio’r un peth.

Cyffuriau A i Y

Cuddio
Ffôn di-dal: